William RichardsY PARCHEDIG CANONYn dawel yn ei gartref ar 22 Ebrill 2021 hunodd William, Cwrt y Gloch, Peniel, Caerfyrddin. Cyn-Offeiriad cylchoedd Aberteifi, Llangynnwr, Pen-bre a Llanddewi Brefi. Priod hoff y diweddar Wendy, tad gofalus Delyth, tad-yng-nghyfraith parchus y diweddar Alan, brawd bach y diweddar Mel, Richard a John, gynt o Barc Rhydderch, Llangeitho. Gwelir ei eisiau yn fawr gan deulu, ffrindiau a chymdogion. Angladd Preifat dydd Sadwrn 8fed o Fai yn Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth. Ymholiadau pellach: Glanmor Evans a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Caerfyrddin.
Keep me informed of updates
Add a tribute for William